Friday, December 23, 2011

Dw i ddim yn hoffi'r Nadolig

Mustikka, Mustikka, Mustikka. Dw i erioed wedi byw gyda neb mor hir ag gyda Mustikka. (Oeddwn i'n un ar bymtheg oed pan wnes i symud bant o gartref.) Oeddwn i'n gwybod ers amser hir ei bod hi'n mynd i farw. Ac mae hynny wedi gwneud y mis diwethaf yn haws i fyw. Ond y Nadolig. Mae'r Nadolig yn beth hollol wahanol.

Mae'n well gyda fi treulio'r amser Nadolig gyda fy nghathod. Maen nhw'n fy nheulu. Maen nhw wastad wedi bod fy nheulu. Ac yn ystod y amser Nadolig dw i ddim yn gallu gwneud dim byd ond meddwl pob un o'r rhai fy mod i wedi colli. Felly, dw i ddim yn hoffi'r Nadolig yn fawr iawn...

Thursday, October 27, 2011

Fy nghathod, yr ail ran

Dyma Elmeri. Mae fe'n saith oed ac mae fe'r ifanca o fy nghathod. Doedd e ddim ond wyth wythnos oed, pan oedd e'n dod i fi. Wnaeth merch fach ddod o hyd iddo fe y tu allan ar ei ben ei hun. Oedd e bron wedi marw. Oedd ei gynffon e'n torri ac oedd e'n llwgu. Ond oedd e'n ymladdwr bach ac yn tyfu i fod yn gath hardd iawn.

Mae fe'n hoffi sefyllian ar y balcon beth bynnag y tywydd. Mae fe'n mwynhau pan mae'r gathod arall yn ei olchi fe, ac maen nhw'n hapus ei wneud e'n wastad.

Tuesday, July 12, 2011

yn rhedeg ac y glaw

Mae'n bwrw glaw! Llawer! Ond wnes i ddim moyn mynd i redeg yn y bore. Oedd y glaw ddim yn broblem ond oeddwn i'n clywed taranu. Ac dyw hi ddim yn hwyl i redeg ar dir agored, os mae'n dechrau melltennu. Felly bydda i'n gorfod mynd i redeg ar ôl gwaith... mae'n haws i redeg yn y bore. Dw i bron yn hoffi rhedeg yn y bore.

Mae rhedeg yn peth digrif. Dw i bron yn ei hoffi hi ac bron yn ei gasáu hi. Weithiau, mae'n anodd iawn i agor y drws ac yn mynd mas. Weithiau, dw i'n casáu pan rhaid i fi redeg hir. Ond bob amser, ar ôl i fi gwpla rhedeg, dw i'n teimlo'n dda, well na da: gwych dw i'n teimlo.

Thursday, March 31, 2011

Fy nghathod, y rhan gyntaf

Mae chwe chath gyda fi. Dw i'n gwybod bod hynny'n llawer o gathod. Mae nhw i gyd yn dod o loches anifail, ac eithrio yr un hyna. Doeddwn i ddim yn bwriadu cael saith cath, oedd yn jyst digwydd. Ac ie, wnes i ddweud (ysgrifennu) saith. Oedd saith cath gyda fi llynedd, ond mae un bu farw ym mis Tachwedd. Wnes i ysgrifennu amdano fe yma.

Dyna Mustikka, yr hyna, i'r chwith. Mae hi bron â 17 oed. Mae hi'n cysgu llawer a'n hoffi pan dw i'n brwsio ei ffwr. Mae hi'n gweiddi'n uchel yn amal pan mae hi'n moyn i fi ddod a brwsio ei ffwr. Mae hi'n gallu bod eithaf bywiog weithiau. Dyw hi ddim yn hoffi pan dw i'n brwsio ei dannedd...
Mae methiant arennol cronig gyda hi ers yr hydref 2006. Mae rhaid iddi hi fwyta moddion bob dydd a llawer o atodiadau maethol hefyd. Yn lwcus, mae'n hawdd i ofalu amdani.

Monday, March 7, 2011

Sut i beidio â gysgu mewn cyfarfod

Mae rhaid i fi eistedd mewn rhai eithaf cyfarfodydd diflas yn y gwaith. Fel arfer dw i'n treulio fy amser ar-lein (mae gliniadur gyda fi) ac weithiau dw i'n trio ysgrifennu rhywbeth yma. Sa i'n deall sut mae pobl yn aros effro y cyfarfod'ma heb gliniadur. Baswn i'n cysgu, taswn i'n gorfod jyst eistedd a gwrando. Mae rhaid i fi wneud rhywbeth felly dw i'n gallu gwrando. So rhai pobl yn deall hyn. Ond os dw i'n edrych fel fy mod i'n gwrando, dw i ddim. Dw i'n gallu adlonni fy hunan yn fy meddyliau, ond rydw i ddim yn gallu clywed dim byd bryd hynny...

Tuesday, March 1, 2011

Mae canu'n anodd

Dw i'n ymarfer canu. Dw i'n mynychu gwers canu unwaith yr wythnos ac yn ymarfer yn y cartref hefyd. Mae fy athrawes yn gantores opera a dw i'n canu llawer o gerddoriaeth glasurol. Ar hyn o pryd dw i'n ymarfer Ave Maria gan Caccini ac Abendempfindung gan Mozart. Dw i'n trio ffeindio caneuon yn y Gymraeg hefyd, ond so'n hawdd. So fy athrawes yn gadael i fi ganu ganeuon hawdd ac dw i'n ei deall. Does dim eisiau i fi ymarfer caneuon hawdd, sa i'n dysgu rhywbeth newydd oddi wrthyn nhw.

Mae llawer o bethau fy mod i'n cofio a gwneud pan canu. Mae rhaid i fi ddefnyddio cyhyrau dde, ymlacio, agor fy nghenau a chodi taflod y genau. Mae hynny'n ormod o bethau i'w cofio ar yr un pryd! On dw i'n trio. Ac yn ymarfer.

Friday, January 28, 2011

Dw i'n hoffi darllen

Dw i'n darllen llawer o ffuglen wyddonol, yn bennaf ffuglen fan: storïau'n ysgrifennu gan ffans (o raglen teledu, er enghraifft). Mae fy hoff yn ffuglen fan Torchwood, storïau am Jack ac Ianto (dyw e ddim wedi marw ac sa i'n mynd i edrych ar Gwenwood).

Mae llawer o bobl yn ysgrifennu storïau rhagorol fy mod i'n mwynhau darllen. Felly, does dim amser gyda fi i ddarllen llyfrau. Sa i byth wedi ysgrifennu ffuglen fan, ysgrifennwr dydw i ddim. Mae'n ddigon anodd yn sgwennu at y blog 'ma. Wrth gwrs, dw i'n trio sgwennu er mwyn ymarfer Cymraeg.

Monday, January 17, 2011

Am redeg

Oedd ymarfer iaido eto yn iawn. Do'n i ddim wedi anghofio dim byd.

Wnes i fynd i redeg ddoe eto, yn y neuadd chwaraeon, ond nawr mae fy lloi fi'n brifo. Dw i'n ymarfer rhedeg heb esgidiau rhedeg ac mae'n wahanol na rhedeg gyda nhw. Dw i wedi gweld y golau ac yn moyn rhedeg yn unig droednoeth. Wrth gwrs, sai'n gallu ei wneud e yn ystod y gaeaf. Mae'n rhy oer ac yn gormod o eira. Yn lwcus, mae'n posibl i redeg yn y neuadd (dw i'n casáu rhedeg ar melin draed).

Thursday, January 13, 2011

Mae'n bwrw eira, eto...

Mae wedi bod yn gynnes am ychydig ddyddiau, ond mae'n oer eto ac yn bwrw eira. So'r oer yn broblem, ond mae'n galed i redeg yn yn eira. Felly, wnes i fynd i redeg mewn neuadd chwaraeon ddydd Mawrth. Oedd y neuadd yn lle neis, ond mae'n diflas i redeg trac byr (dim ond 200 medr). O'n i'n gwrando ar gerddoriaeth ac yn rhedeg tua 5km.

Heddiw, dw i'n mynd i redeg y tu allan ac yfory mae rhaid i fi ddechrau ymarfer iaido eto. Sa i wedi ei ymarfer e ers mis Mehefin... Wnes i ddechrau ymarfer iaido 1997, felly dw i wedi ymarfer iaido am un deg pedair blynedd.

Friday, January 7, 2011

Gobeithio, mae hyn yn helpu..

Dw i wedi dysgu Cymraeg am ddwy flynedd. (Wnes i ysgrifennu pam dw i'n dysgu Cymraeg mewn yma.) Dw i'n trio ymarfer bob dydd ac yn gwrando ar Radio Cymru pan dw i'n yn y gwaith. Dw i wedi darrlen llyfr ar gyfer ddysgwyr, E-Ffrindiau gan Lois Arnold. Mae'n llyfr yn dda iawn. Ar hyn o bryd dw i'n darllen Pwy sy'n cofio Siôn gan Mari Evans. Mae'n fwy anodd na E-Frindiau.

Wnes i greu y blog 'ma i drio sgwennu rhywbeth weithiau, gobeithio yn amal.