Friday, December 23, 2011

Dw i ddim yn hoffi'r Nadolig

Mustikka, Mustikka, Mustikka. Dw i erioed wedi byw gyda neb mor hir ag gyda Mustikka. (Oeddwn i'n un ar bymtheg oed pan wnes i symud bant o gartref.) Oeddwn i'n gwybod ers amser hir ei bod hi'n mynd i farw. Ac mae hynny wedi gwneud y mis diwethaf yn haws i fyw. Ond y Nadolig. Mae'r Nadolig yn beth hollol wahanol.

Mae'n well gyda fi treulio'r amser Nadolig gyda fy nghathod. Maen nhw'n fy nheulu. Maen nhw wastad wedi bod fy nheulu. Ac yn ystod y amser Nadolig dw i ddim yn gallu gwneud dim byd ond meddwl pob un o'r rhai fy mod i wedi colli. Felly, dw i ddim yn hoffi'r Nadolig yn fawr iawn...