Thursday, March 31, 2011

Fy nghathod, y rhan gyntaf

Mae chwe chath gyda fi. Dw i'n gwybod bod hynny'n llawer o gathod. Mae nhw i gyd yn dod o loches anifail, ac eithrio yr un hyna. Doeddwn i ddim yn bwriadu cael saith cath, oedd yn jyst digwydd. Ac ie, wnes i ddweud (ysgrifennu) saith. Oedd saith cath gyda fi llynedd, ond mae un bu farw ym mis Tachwedd. Wnes i ysgrifennu amdano fe yma.

Dyna Mustikka, yr hyna, i'r chwith. Mae hi bron â 17 oed. Mae hi'n cysgu llawer a'n hoffi pan dw i'n brwsio ei ffwr. Mae hi'n gweiddi'n uchel yn amal pan mae hi'n moyn i fi ddod a brwsio ei ffwr. Mae hi'n gallu bod eithaf bywiog weithiau. Dyw hi ddim yn hoffi pan dw i'n brwsio ei dannedd...
Mae methiant arennol cronig gyda hi ers yr hydref 2006. Mae rhaid iddi hi fwyta moddion bob dydd a llawer o atodiadau maethol hefyd. Yn lwcus, mae'n hawdd i ofalu amdani.

Monday, March 7, 2011

Sut i beidio â gysgu mewn cyfarfod

Mae rhaid i fi eistedd mewn rhai eithaf cyfarfodydd diflas yn y gwaith. Fel arfer dw i'n treulio fy amser ar-lein (mae gliniadur gyda fi) ac weithiau dw i'n trio ysgrifennu rhywbeth yma. Sa i'n deall sut mae pobl yn aros effro y cyfarfod'ma heb gliniadur. Baswn i'n cysgu, taswn i'n gorfod jyst eistedd a gwrando. Mae rhaid i fi wneud rhywbeth felly dw i'n gallu gwrando. So rhai pobl yn deall hyn. Ond os dw i'n edrych fel fy mod i'n gwrando, dw i ddim. Dw i'n gallu adlonni fy hunan yn fy meddyliau, ond rydw i ddim yn gallu clywed dim byd bryd hynny...

Tuesday, March 1, 2011

Mae canu'n anodd

Dw i'n ymarfer canu. Dw i'n mynychu gwers canu unwaith yr wythnos ac yn ymarfer yn y cartref hefyd. Mae fy athrawes yn gantores opera a dw i'n canu llawer o gerddoriaeth glasurol. Ar hyn o pryd dw i'n ymarfer Ave Maria gan Caccini ac Abendempfindung gan Mozart. Dw i'n trio ffeindio caneuon yn y Gymraeg hefyd, ond so'n hawdd. So fy athrawes yn gadael i fi ganu ganeuon hawdd ac dw i'n ei deall. Does dim eisiau i fi ymarfer caneuon hawdd, sa i'n dysgu rhywbeth newydd oddi wrthyn nhw.

Mae llawer o bethau fy mod i'n cofio a gwneud pan canu. Mae rhaid i fi ddefnyddio cyhyrau dde, ymlacio, agor fy nghenau a chodi taflod y genau. Mae hynny'n ormod o bethau i'w cofio ar yr un pryd! On dw i'n trio. Ac yn ymarfer.