Thursday, March 31, 2011

Fy nghathod, y rhan gyntaf

Mae chwe chath gyda fi. Dw i'n gwybod bod hynny'n llawer o gathod. Mae nhw i gyd yn dod o loches anifail, ac eithrio yr un hyna. Doeddwn i ddim yn bwriadu cael saith cath, oedd yn jyst digwydd. Ac ie, wnes i ddweud (ysgrifennu) saith. Oedd saith cath gyda fi llynedd, ond mae un bu farw ym mis Tachwedd. Wnes i ysgrifennu amdano fe yma.

Dyna Mustikka, yr hyna, i'r chwith. Mae hi bron â 17 oed. Mae hi'n cysgu llawer a'n hoffi pan dw i'n brwsio ei ffwr. Mae hi'n gweiddi'n uchel yn amal pan mae hi'n moyn i fi ddod a brwsio ei ffwr. Mae hi'n gallu bod eithaf bywiog weithiau. Dyw hi ddim yn hoffi pan dw i'n brwsio ei dannedd...
Mae methiant arennol cronig gyda hi ers yr hydref 2006. Mae rhaid iddi hi fwyta moddion bob dydd a llawer o atodiadau maethol hefyd. Yn lwcus, mae'n hawdd i ofalu amdani.

No comments:

Post a Comment